WG_positive_40mm

 

 

 

 

 

 

 

 


DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Etholiadau Senedd Ewrop (Diwygio a Dirymu) (Y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â’r UE) 2022

DYDDIAD

05 Gorffennaf 2022

GAN

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

 

 

RhS 30C – Gosod OS yn Senedd y DU sy'n diwygio deddfwriaeth mewn maes datganoledig

Yn unol â'm rhwymedigaethau o dan Reol Sefydlog 30C, hoffwn sicrhau bod yr Aelodau yn ymwybodol o'r cydsyniad yr wyf wedi'i roi i Lywodraeth y DU ddeddfu i ddirymu deddfwriaeth etholiadau Senedd Ewrop etifeddol ar ran Llywodraeth Cymru.

Diben yr Offeryn Statudol

Mae Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU wedi ein hysbysu yn ddiweddar am eu bwriad i ddirymu deddfwriaeth etholiadau Senedd Ewrop etifeddol a ddargedwir yng nghyfraith y DU nad oes ei hangen mwyach yn y DU ac i ddileu cyfeiriadau diangen at etholiadau Senedd Ewrop mewn rhai darnau o is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag etholiadau domestig. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 8(1) (i fynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill (yn enwedig o dan adran 8(2)(a) ac (g) o Ddeddf 2018) yn sgil ymadawiad y DU â'r UE) a 24(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn gwneud hynny.

Bydd yr Offeryn Statudol yn:

 

a)    hepgor cyfeiriadau diangen sy'n ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad Ewrop yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 1986 (O.S. 1986/1111) – mae'r rheoliadau hyn yn rhychwantu’r Alban yn unig;

b)    hepgor cyfeiriadau diangen sy'n ymwneud ag etholiadau Senedd Ewrop yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294) – mae hyn yn cynnwys rhai diwygiadau cyffredinol i ddileu cyfeiriadau diangen a hefyd i ddileu darpariaethau sy'n ymwneud â chyfuno cynnal pleidleisiau mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac etholiad Senedd Ewrop ac mewn etholiad maerol awdurdod cyfun ac etholiad Senedd Ewrop;

c)    hepgor cyfeiriadau diangen at etholiadau Senedd Ewrop a diwygiad canlyniadol yn Atodlen 4 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012 (O.S. 2012/1917) – mae etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn etholiadau a gedwir yn ôl;

d)    gwneud diwygiad canlyniadol i Orchymyn Awdurdodau Cyfun (Etholiadau Maerol) 2017 (O.S. 2017/67) – math o sefydliad llywodraeth leol yw awdurdod cyfun a gyflwynwyd yn Lloegr gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009. Nid yw'r rhain yn gymwys i Gymru;

e)    hepgor Tabl 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Etholiadau Senedd Ewrop Etc. (Darpariaethau Diddymu, Dirymu, Diwygio ac Arbed) (Y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â’r UE) 2018 (O.S. 2018/1310).

 

Dyma’r darnau penodol o Ddeddfwriaeth a fydd yn cael eu dirymu o dan yr Offeryn Statudol:

 

(a)  Rheoliad (EU, Euratom) Rhif 1141/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar statud ac ariannu pleidiau gwleidyddol Ewropeaidd a sefydliadau gwleidyddol Ewropeaidd;

(b)  Rheoliad (EU, Euratom) 2018/673 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EU, Euratom) Rhif 1141/2014 ar statud ac ariannu pleidiau gwleidyddol Ewropeaidd a sefydliadau gwleidyddol Ewropeaidd;

(c)  Penderfyniad y Cyngor (EU, Euratom) 2018/994 sy'n diwygio'r Ddeddf ynghylch ethol aelodau o Senedd Ewrop drwy bleidlais uniongyrchol i bawb, wedi'i atodi i Benderfyniad y Cyngor 76/787/ECSC;

(d)   Gorchymyn Etholiadau Senedd Ewrop (Ffurflenni Cymraeg) 2014.

Unrhyw effaith y gall yr Offeryn Statudol ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Mae'r Offeryn Statudol yn cynnwys darpariaethau sy'n dirymu darnau o ddeddfwriaeth (tri o offerynnau’r UE a Gorchymyn Etholiadau Senedd Ewrop (Ffurflenni Cymraeg) 2014), y mae eu pwnc o fewn cymhwysedd datganoledig, felly mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ymlaen llaw ar gyfer yr Offeryn Statudol.

Nid yw'r Offeryn Statudol yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru na chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Nid yw'r Offeryn Statudol yn cynnwys trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i Weinidogion Cymru nac oddi wrthynt ac nid yw ychwaith yn rhoi unrhyw swyddogaethau newydd i Weinidogion Cymru.

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Mater technegol ac annadleuol yw hwn yn bennaf. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y polisi a byddai gwneud trefniadau ar wahân yn arwain at ddyblygu, ac at gymhlethu’r llyfr statud yn ddiangen. Felly, rwyf yn fodlon mai rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud y dirymiadau hyn ar ran Cymru yw'r cam mwyaf priodol yn yr achos penodol hwn am resymau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd a hwylustod.